Dataset Viewer
Auto-converted to Parquet Duplicate
text
stringlengths
76
2.23k
__index_level_0__
int64
0
4.36k
Yr eitem gyntaf ar yr agenda yw ethol Llywydd, o dan Reol Sefydlog 6. Felly, rwy'n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 6.6. A oes gennym unrhyw enwebiadau? Ac mae'n rhaid i ni gael Aelod o blaid wleidyddol wahanol i eilio unrhyw enwebiad. Felly, eich enwebiadau os gwelwch yn dda.
0
Diolch, Lywydd. Croeso, bawb, i'r Cynulliad - y rhai ohonoch chi sydd yn newydd-ddyfodiaid, a'r rhai ohonoch chi sydd yn dychwelyd. A gaf i ddweud fy mod i'n ei ffeindio hi'n anrhydedd fawr i gael fy nghynnig fel darpar Lywydd ac i roi fy enw ymlaen ger eich bron chi ar gyfer pleidlais? Mae rhai ohonoch chi yn fy adnab...
1
Dyma ailddechrau trafodion y Cynulliad, ac mae canlyniad y bleidlais gudd fel a ganlyn. Pleidleisiodd pob un o'r 60 o Aelodau: Elin Jones, 34, Dafydd Elis-Thomas 25, ac 1 yn ymatal. Felly, rwy'n datgan, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Elin Jones wedi'i hethol yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac rwy'n ei gwaho...
2
Diolch am hynny. A oes unrhyw enwebiadau eraill? Gwelaf felly nad oes unrhyw enwebiad arall. Cynigiaf felly yn unol â Rheol Sefydlog 6.8 - na. Dyna fy nghamgymeriad cyntaf. Os oes mwy nag un enwebiad - olréit. Felly, mae yna ddau enwebiad ar gyfer y swydd, ac fe gynhelir pleidlais gudd o dan Reol Sefydlog 6.8. Cyn hynn...
3
Gynulliad, rwyf nawr mewn sefyllfa i adrodd ar ganlyniad y bleidlais gudd ar gyfer y Dirprwy Lywydd. Fe gafodd John Griffiths 29 pleidlais ac Ann Jones 30 pleidlais. Rwy'n datgan, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Ann Jones wedi ei hethol yn Ddirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol. Unwaith eto, cyn symud ymlaen...
4
Rydym yn symud ymlaen felly at y busnes nesaf ar yr agenda, sef i enwebu'r Prif Weinidog. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.11, y bwriad yw dwyn ymlaen enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, yna fe gymerwn ni yr enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. A gaf i ofyn felly a oes yna unrhyw e...
5
Canlyniad y bleidlais ar gyfer yr enwebiad ar gyfer Prif Weinidog oedd Carwyn Jones, 29, Leanne Wood, 29. Yn sgil y ffaith nad oes yna fwyafrif, fe rydwyf felly yn gohirio gweddill y cyfarfod yma am nawr ac yn cau'r cyfarfod.
6
Byddwn ni'n dechrau'r cyfarfod drwy ddychwelyd at enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8, a ohiriwyd yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf. Yn y cyfarfod hwnnw, daeth dau enwebiad i law ac fe gafodd Carwyn Jones a Leanne Wood nifer cyfartal o bleidleisiau. Enwebwyd Carwyn Jones gan Jane Hutt ac enwebwyd Leanne Wood g...
7
Felly, dim ond un enwebiad sydd ar ôl, ac, yn sgîl hynny, yn fy marn i, ni fyddai'n rhesymol cynnal pleidlais arall drwy alw enwau pan fo un o'r ymgeiswyr yma am dynnu yn ôl.
8
Diolch am y pwynt o drefn. Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad yn yr achos yma. Bydd yr Aelodau yn deall nad yw'r Rheolau Sefydlog yn mynd i fanylion ynghylch pob sefyllfa bosib, ac, mewn sefyllfaoedd o'r fath, fy nghyfrifoldeb i fel Llywydd yw dehongli'r Rheolau Sefydlog, a llywio'r Cynulliad yma orau y gallaf i. Byddai'n a...
9
Wel, rwyf wedi gwneud fy nyfarniad. Rwyf am ganiatáu un cyfle arall i chi herio hynny, ond dyna ni wedyn.
10
Nid wyf wedi gwneud unrhyw bwynt yn fy mhwynt o drefn sy'n awgrymu y dylid enwebu rhywun arall, dim ond nodi y dylid gweithredu amod benodol y Rheolau Sefydlog, yn sgil yr amgylchiad y darperir ar ei gyfer yn y Rheolau Sefydlog.
11
Yn y tymor newydd hwn, Plaid Cymru fydd yr wrthblaid fwyaf effeithiol a welodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn erioed. Fe fyddwn o ddifrif ynglŷn â'n cyfrifoldebau ac fe fyddwn yn adeiladol. Mae llawer wedi'i ysgrifennu a'i ddweud mewn perthynas ag ymochri gwleidyddol yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf; yn hynny o bet...
12
A gaf fi wneud y pwynt yma nad wyf yn credu bod unrhyw sylwadau rhagfarnllyd wedi'u gwneud gan unrhyw un yn y Siambr hon hyd yma?
13
Yr eitem nesaf yw cynnig heb rybudd i ddwyn ymlaen y cwestiynau i'r Prif Weinidog i'r Cyfarfod Llawn nesaf. Fy mwriad i yw galw'r cyfarfod hwnnw am 1.30 brynhawn dydd Mawrth nesaf, 24 Mai, yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi o enwebiad y Prif Weinidog. Galwaf ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol.
14
Yn ogystal â chwestiynau i'r Prif Weinidog, gobeithiaf yr wythnos nesaf y byddwn mewn sefyllfa yn y cyfarfod i ethol aelodau i'r Pwyllgor Busnes a dechrau'r drefn arferol o fusnes y Cyfarfod Llawn. Erbyn hynny, mae'n bosibl y bydd y Prif Weinidog hefyd wedi penodi Gweinidogion Cymru. Bydd yr Aelodau a'r cyhoedd yn cael...
15
Wrth gwrs, Madam Lywydd. Y cwbl yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd ailadrodd nad oeddwn i'n bwriadu cyfleu unrhyw amarch at y Cynulliad nac at unrhyw Aelod ohono. Roeddwn i'n ceisio gwneud pwynt doniol o fater difrifol. Rwy'n sylweddoli bod synnwyr digrifwch yn beth unigol. Croesawaf yr hyn a ddywedasoch hefyd am beidio ...
16
Diolch am y cwestiwn. A gaf i, wrth gwrs, groesawu yr Aelod, a phob Aelod sydd yn mynd i wneud eu cyfraniadau cyntaf heddiw? Fel rhan o'r cytundeb i symud Cymru ymlaen, a gytunwyd gyda Phlaid Cymru, byddwn yn canolbwyntio ein ffocws ar gynyddu niferoedd y meddygon teulu a gweithwyr iechyd yn y sector gofal sylfaenol yn...
17
Mae hwn yn rhywbeth i'w ystyried, wrth gwrs, ac rwy'n edrych ymlaen i weithio o dan dermau'r cytundeb, er mwyn sicrhau ein bod ni yn symud ymlaen i sicrhau bod mwy o weithwyr yn y sector gofal a hefyd weithwyr iechyd, wrth gwrs, yma yng Nghymru. Mae'n bwysig dros ben nad ydym ni'n canolbwyntio ddim ond ar ddoctoriaid, ...
18
Gwnaf yn wir, a gwn y bydd y Gweinidog newydd yn ystyried hyn fel mater o frys yn rhan o'i bortffolio i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud. Rydym yn gwybod bod hyfforddi mwy o weithwyr proffesiynol o bob math yn y sector iechyd yn bwysig, ond hefyd eu recriwtio, gan nad yw eu hyfforddi o reidrwydd yn golygu ...
19
Mae peidio â chael streic meddygon iau yn ddechrau da, rwy'n credu, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym yn bwriadu ei wneud. Ond bydd yn gwybod, wrth gwrs, bod menter gydweithredol y canolbarth yn edrych yn ofalus iawn ar hyn - ar y ddarpariaeth o wasanaeth iechyd - nid yn unig yn ei ardal ef, ond mewn ardaloedd eraill ar...
20
Rwy'n credu bod hynny'n synhwyrol. Wrth gwrs, pan fydd yna newid mewn gwasanaeth yn y gwasanaeth iechyd, mae pobl yn pryderu weithiau o achos y ffaith, efallai, bod nhw'n ffaelu teithio'n rhwydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae'n bwysig dros ben bod y byrddau iechyd ac, wrth gwrs, practisys unigol yn sicrhau ...
21
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Un o'r pethau allweddol yn yr etholiad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer y Cynulliad yng Nghanol De Cymru oedd y cynnig i gael ffordd osgoi ar gyfer Dinas Powys. Mae hyn wedi ei grybwyll yn aml dros flynyddoedd lawer, a chyflwynwyd fersiynau amrywiol o bolisïau a chynigion i...
22
Brif Weinidog, dylai'r cyfleuster benthyca cynnar o £500 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi ar gyfer ffordd liniaru i'r M4, yn fy marn i, fod ar gael ar gyfer beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei gredu yw'r ateb gorau i'r problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd. A fyddech chi'n cytuno â mi, yn unol ag y...
23
O ystyried y cwestiynau o'i feinciau cefn ei hun, a yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder, os na fydd yn ystyried dewisiadau eraill ac eithrio'r llwybr du, efallai y byddwn yn canfod nad oes unrhyw ffordd liniaru i'r M4 yn cael ei hadeiladu o gwbl?
24
Brif Weinidog, yn ogystal ag ystyried seilwaith i gefnogi teithiau pellter hir, a fyddech chi'n ystyried buddsoddi mewn seilwaith i gefnogi lleihau'r defnydd o geir ar gyfer teithiau pellter byr? Mae tua 20 y cant o deithiau mewn car am bellteroedd o lai na milltir, ac mae'r rhain yn ychwanegu'n sylweddol at dagfeydd l...
25
Diolch, Lywydd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r ymgyrchydd o Gaerdydd, Annie Mulholland, a fu farw ddydd Sul yn anffodus ar y ar ôl ymladd brwydr hir â chanser. Roedd Annie yn ymgyrchydd uchel ei chloch dros gronfa cyffuriau a thriniaethau newydd i roi terfyn ar y loteri cod post a'r cymalau eithriadolb...
26
Dylid eich canmol, rwy'n credu, Brif Weinidog, am eich camau ar y pwynt hwn oherwydd, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gwnaethoch chi a'ch ymgeiswyr ddadlau yn erbyn rhoi terfyn ar y loteri cod post a'r cwestiwn hwn o eithriadoldeb. Ni wnaethoch gyfarfod ag ymgyrchwyr o ymgyrch Hawl i Fyw ychwaith. A wnewch chi gytuno n...
27
Rwy'n croesawu'r ymrwymiad hwnnw gennych chi y prynhawn yma, Brif Weinidog. Cafodd y cytundeb yr wythnos diwethaf rhwng Plaid Cymru a Llafur ar y mater hwn ei groesawu'n frwd gan ymgyrchwyr ac elusennau, oherwydd yr ymrwymiad penodol hwnnw i greu system decach a mwy cyfiawn yma yng Nghymru. Ni fyddai'r ymrwymiad hwn we...
28
Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gysylltu fy hun â'r sylwadau am Annie Mulholland. Cefais y pleser o noddi'r digwyddiad a gynhaliwyd ac a gafodd ei gefnogi'n eang gan lawer o Aelodau'r Cynulliad blaenorol, ac, yn wir, siaradodd y Gweinidog iechyd blaenorol yn y digwyddiad hwnnw yn y Pierhead. Trwy ei dycnwch, trwy ei hymro...
29
Wel, rwy'n hyderus y bydd yr ymchwiliad yn dod i ben erbyn rhan olaf y flwyddyn nesaf. Ni allwn ragfarnu'r hyn y bydd yr ymchwiliad yn ei ddweud. Rwy'n derbyn y bu llawer o ddadlau yn y Siambr hon a'r tu allan am y llwybr du yn erbyn y llwybr glas, neu lwybr arall efallai. Rydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud bod y ll...
30
Na, rwy'n credu y bydd yr etholiadau hynny'n cael eu cynnal. Ni allaf ragweld sefyllfa lle na fyddent. Felly, i ateb ei gwestiwn, byddant, mi fyddant yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. O ran ad-drefnu llywodraeth leol, mae'n amlwg i mi na fyddai'r map yn ennill cefnogaeth yn y Siambr hon, ond rwyf yn gwybod, yn y Siam...
31
Gwnaf, mi wnaf, a bydd yr Aelod, wrth gwrs, yn gwybod mai Llywodraeth y DU, yn anffodus, a wrthwynebodd codi'r tariffau hynny. Nid yr UE oedd yn ei wrthwynebu; roedd yn safbwynt a fabwysiadwyd ar y pryd gan Lywodraeth y DU. Maen nhw wedi rhoi esboniad am hynny, ond, rwy'n meddwl, yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd ar...
32
Yr anhawster, wrth gwrs, â'r ddadl y mae'n ei gwneud yw, pe byddai'r UE yn codi tariffau yn erbyn dur a'r DU yn gadael yr UE, byddai'r tariffau hynny'n berthnasol ar gyfer dur y DU. Felly, byddem yn canfod ein hunain yn wynebu rhwystr tariff enfawr wedyn pe byddem yn dymuno allforio i mewn i'r UE, ac mae 30 y cant o'r ...
33
Mae'n rhaid i ni gofio mai penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth etholedig y DU oedd peidio â chefnogi codi'r tariffau. Dyna oedd y penderfyniad a wnaed, nid gan Lywodraeth y DU ar ei phen ei hun, ond gan Lywodraethau eraill - o leiaf un Llywodraeth arall - hefyd. Ond, o'm safbwynt i, rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig b...
34
Dros gyfnod yr etholiad, Brif Weinidog, euthum i a chydweithwyr Plaid Cymru i ymweld â'r adran beirianneg ar y campws arloesi newydd. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gofynnais i Brifysgol Abertawe anfon rhai ffigurau ataf o ran faint y byddai'n ei gostio i sefydlu uned dur ac arloesi newydd yn y brifysgol, gan ei bod mor ag...
35
Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi yn gyntaf oll am yr arweinyddiaeth yr ydych chi wedi ei dangos yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma yng Nghymru ar yr argyfwng dur? Roedd fy etholwyr yn sicr yn gwerthfawrogi'r arweinyddiaeth honno yng Nghymru. Ers i'r Cynulliad gyfarfod ddiwethaf, a dweud y gwir, ar 4 Ebrill, pan dra...
36
Croesawaf y ffaith fod y Prif Weinidog yn mynd allan i Mumbai. Roeddwn i'n meddwl tybed, yng ngoleuni'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cais Excalibur, sydd hefyd i'w groesawu'n fawr, hyd yma, a fydd ef yn gwneud sylwadau gweithredol ar ran y tîm hwnnw? O ran eu gweledigaeth, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod eu b...
37
Brif Weinidog, a allwch chi amlinellu'r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei neilltuo hefyd i'r 11,000 o swyddi cynhyrchu dur eu hunain i gymunedau Cymru, ac nid lle mae'r safleoedd dur wedi'u lleoli yn unig, ond, er enghraifft, mewn cymunedau fel fy un i yn Islwyn, a sefydlwyd ar sail dur, a hefyd o ran galluoedd...
38
Brif Weinidog, roeddwn i braidd yn siomedig o glywed eich bod ond wedi llwyddo i siarad â dau o'r darpar brynwyr. Tybed a allech chi ddweud wrthyf a wnaethoch chi gymryd camau rhagweithiol i siarad â phawb a oedd wedi dangos diddordeb mewn gwneud cynigion ac, yn unol â thelerau cyfrinachedd masnachol, y math o amrywiae...
39
Brif Weinidog, mae gwaith dur Orb Tata yn fy etholaeth i, fel y gwyddoch, yn gwneud dur trydanol o'r radd flaenaf. Rwy'n cyfarfod â nhw yn rheolaidd ac mae'n amlwg i mi y bu perthynas waith dda iawn rhwng Llywodraeth Cymru a gwaith yr Orb dros gyfnod o amser. A wnewch chi fy sicrhau y bydd y berthynas honno, sydd wedi ...
40
Brif Weinidog, rwy'n sylweddoli y bu'n rhaid i'r partïon dan sylw lofnodi cytundebau peidio â datgelu, sy'n cyfyngu ar y wybodaeth y gallwch chi ei rhoi, ond yn dilyn ymlaen o gwestiwn John Griffiths, a gaf i ofyn i chi os ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau penodol ar hyfywedd rhan Llanwern o weithrediad dur Cymru...
41
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i'r datblygiad hynod bwysig hwn. Rydym ni'n disgwyl y bydd y flwyddyn hon yn flwyddyn arwyddocaol i'r prosiect, sydd yn werth £12 biliwn, yn enwedig gan fod Horizon wedi cyhoeddi tîm cyflenwi newydd ar gyfer Wylfa Newydd yr wythnos diwethaf.
42
Mae hyn wedi digwydd yn barod. Mae yna fwrdd rhaglen niwclear wedi cael ei sefydlu, sef bwrdd Llywodraeth Cymru, a nod y bwrdd yw sicrhau ein bod ni'n sicrhau'r budd economaidd mwyaf i'r ynys a hefyd i Gymru yn gyfan gwbl. Mae gyda'r bwrdd hwnnw sawl ffynhonnell waith sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd, sy'n cynnwys ...
43
Wel, o ystyried y ffaith ei fod eisoes yno yn y lle cyntaf, yn gadarnhaol. Bydd yn gwybod, yr Aelod, ein bod wedi rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer y gogledd-ddwyrain - nid yw hynny'n eithrio'r gogledd-orllewin; rydym ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r gogledd-orllewin - oherwydd, ar un adeg, roedd y Northern Powerhouse, f...
44
Rydym ni eisoes wedi archwilio'r dewisiadau ar gyfer trydedd pont ar draws y Fenai, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau bwrw ymlaen ag ef. Rydym ni wedi archwilio pa un a yw'n bosibl, er enghraifft, ymestyn - neu ledaenu, yn hytrach - pont Britannia. Mae hynny'n anodd, ond, serch hynny, mae hwn yn waith sydd ar y...
45
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Fel y dywed, mae cynlluniau cyffrous ar waith i wella gwasanaethau canser yn y de-ddwyrain, gan ddod â gwasanaethau yn nes at bobl yn eu cartrefi eu hunain, a hefyd i adeiladu Felindre newydd. Felly, a wnaiff ef gadarnhau ymrwymiad ei Lywodraeth i adeiladu'r Felindre newydd,...
46
Un o'r meysydd lle mae Cymru ar ei hôl hi tipyn bach o safbwynt ymdrin â chanser yw'r amser i ddiagnosis. Mae nifer o elusennau canser yn ystod yr ymgyrch yr ydym ni i gyd wedi bod yn rhan ohoni hi wedi cysylltu â ni fel ymgeiswyr i ofyn beth y gallem ni ei wneud yn y Cynulliad hwn i wella'r amser i ddiagnosis. Roedd g...
47
Brif Weinidog, rydym ni'n croesawu eich ymrwymiad maniffesto eich hun o £80 miliwn ar gyfer cronfa driniaeth newydd. Mae hyn wrth gwrs yn dilyn galwad y Ceidwadwyr Cymreig ers blynyddoedd lawer am gronfa cyffuriau trin canser i roi terfyn ar yr anghydraddoldeb a'r loteri cod post sy'n bodoli yma yng Nghymru. A wnewch c...
48
Brif Weinidog, mae gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi canser isaf yn y byd datblygedig, a'r prif reswm yw cyfraddau gwael o ran canfod ac ymyrraeth gynnar. Sut wnaiff eich Llywodraeth wella diagnosis a thriniaeth, ac a ydych chi'n cytuno â fy mhlaid i y dylai pawb sy'n cael diagnosis o ganser fod â chynllun gofal ysgr...
49
Gwnaf. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith ym mhob rhan o Gymru. Erbyn hyn, nodir mai cysylltiad Cwm Cynon yw'r cynllun â'r brif flaenoriaeth yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2015-20, ac rydym ni wedi dyrannu arian i'r cyngor i ddatblygu cynllun Porth y De C...
50
Byddwn, mi fyddwn. Dyddiau cynnar yw hi eto, wrth gwrs, gan mai dyma'r gwaith paratoadol sy'n cael ei wneud, ond byddem yn disgwyl i Rhondda Cynon Taf wneud cyflwyniad ffurfiol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym yn gwybod bod Aberdâr yn agos yn ddaearyddol at yr A470 a'r A465, ond rydym ni'n gwybod nad yw'r f...
51
Bydd, yn sicr. Rydym ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a chyda'r 10 awdurdod lleol dan sylw i wneud yn siŵr bod y cytundeb dinas yn dwyn ffrwyth. Mae'n iawn i ddweud ei fod yn ddibynnol, wrth gwrs, ar arian o lawer o wahanol ffynonellau. Rydym ni'n gwybod bod y metro, er enghraifft, yn ddibynnol ar £125 miliwn o g...
52
Mae'n braf clywed, Brif Weinidog, eich bod yn cydnabod bod hwn wir yn fygythiad byd-eang i iechyd a chyfraddau goroesi dynol o achosion cyffredin. Rydym ni wedi tybio erioed y byddem yn goroesi'n rhwydd y clefydau cyffredin a allai achosi marwolaeth erbyn hyn. Mae'r Athro O'Neill yn galw am weithredu byd-eang ar hyn, o...
53
Brif Weinidog, efallai eich bod yn cytuno â fi wrth i fi ddweud bod y defnydd, neu'r gorddefnydd, o wrthfiotigau yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd, i ddweud y gwir. Fel rydym yn ymwybodol, mae'r defnydd o wrthfiotig yn digwydd yn y byd amaeth, yn ogystal, wrth gwrs, a chan feddygon teulu ac yn ein hysbytai. Wrth gwrs, mewn...
54
Brif Weinidog, un o'r problemau, rydym ni'n clywed, yw nad yw pobl yn cael diagnosis yn ddigon cynnar, ac felly, yn anffodus, mae heintiau yn mynd drwyddynt cyn y gellir rhoi'r gwrthfiotigau ar bresgripsiwn. O ystyried yr anawsterau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu o ran cael apwyntiadau â meddygon teulu, a'r anaws...
55
Mae mewnfudo'n fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun yn ddiweddar i ailgyfanheddu rhai plant o wersylloedd yn Ewrop, ac rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i baratoi ar gyfer hyn.
56
Gallaf ddweud ein bod wedi sefydlu, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, tasglu gweinidogol ar gyfer ffoaduriaid o Syria ym mis Tachwedd y llynedd. Mae hwnnw wedi'i ategu gan fwrdd gweithrediadau i helpu i gydgysylltu'r ymateb, a sefydlwyd is-grŵp plant i'r bwrdd hwnnw i sicrhau'n benodol cydgysylltiad ar gyfer ailgyfanheddu...
57
Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd fod llygredd aer trefol yn parhau i gynyddu ar raddfa frawychus, a rhestrodd Casnewydd ymhlith y pump uchaf yng Nghymru. Gan fod llygredd aer yn fater iechyd cyhoeddus, rydym ni'n gwybod y bydd cynnydd mawr i lygredd aer yn ystod cyfnodau o dagfeydd traffig. A all y Prif Weinidog roi sic...
58
Dim sylwadau, ond rydym ni'n ymwybodol o'r problemau ac rydym ni'n cefnogi Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn eu galwad am adolygiad.
59
Wel, mae hon yn un o'r cronfeydd pensiwn hynny, er eu bod yn brin, sydd wedi bod mor llwyddiannus fel ei bod wedi darparu mwy o arian na ragwelwyd i Lywodraeth y DU. A does bosib y gall hynny fod yn iawn. Byddwn yn cael ein llywio gan yr NUM, gan ei fod wedi galw am adolygiad, a hynny'n briodol. Gwn y byddant yn cyfarf...
60
Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd addysg am hynny a'i chroesawu i'w swydd. Mae colli cefnogaeth i astudiaethau ôl-raddedig rhan-amser yn golygu y bydd rhai o brifysgolion Cymru yn wynebu toriadau canran sylweddol i gyfanswm eu cyllid gan CCAUC. Felly, er enghraifft: bydd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn colli 25 y cant...
61
Gan groesawu'r Ysgrifennydd addysg i'w swydd newydd, a gaf i ofyn iddi, yn gyntaf oll, a wnaiff hi, felly, gyhoeddi'r llythyr cylch gwaith y mae wedi ei gyflwyno, neu y mae ei rhagflaenydd wedi ei gyflwyno, i CCAUC, fel y gallwn ddeall o dan ba amgylchiadau y gwnaed y penderfyniad hwn? Mae hyn yn deillio'n uniongyrchol...
62
Datganiad gan y Prif Weinidog ar benodiadau i'r Cabinet. Ac rwy'n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
63
Yn gyntaf oll, o ran y cwestiwn cyntaf, ydy, mae cydgyfrifoldeb yn berthnasol. Os ceir anghytundebau, byddant yn cael eu trin yn yr un modd ag yr oeddent yn cael eu trin pan oedd clymblaid â'i phlaid hi, neu yn wir, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y blynyddoedd a fu. Bydd dulliau ar waith i sicrhau bod y materion hy...
64
Yn gyntaf oll, Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich ymateb cynharach i Andrew R. T. Davies ynglŷn â'r pwyllgorau y bydd y Llywodraeth yn eu cynnal ar y cyd â Phlaid Cymru? Mae'n rhaid i mi fynegi fy mhryderon fod rhywbeth sydd mor bwysig â'r cyfansoddiad, sy'n cynnwys, wrth gwrs, pawb yn y Cynulliad hwn, yn fat...
65
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i benodi aelodau i'r Pwyllgor Busnes. Rwy'n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol.
66
Y cynnig heb rybudd yw'r eitem nesaf, i gyflwyno cwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn nesaf. Rwy'n bwriadu ei alw am 1.30 p.m. ddydd Mercher 8 Mehefin. Rwy'n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol.
67
Lywydd, Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, diolch i chi am eich croeso cynnes a'ch dymuniadau da. Rwyf yn falch iawn o fod yma heddiw ar achlysur agor pumed Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac rwyf yn eich llongyfarch ar gael eich ethol yn Aelodau'r Cynulliad. Rwyf wedi parhau i ddilyn cynnydd y Cynulliad â chryn ddidd...
68
Dyna ateb calonogol iawn, Brif Weinidog. Rydych yn ddyn craff ac rydych yn siŵr o fod wedi sylwi fy mod wedi bod yn gwrthwynebu'r cynlluniau i ddiddymu Sir Fynwy fel rhan o'r ad-drefnu llywodraeth leol a argymhellwyd gan Lywodraeth ddiwethaf Cymru. Nawr bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am y cynlluniau hyn wedi symud ymlae...
69
Brif Weinidog, nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015', y llynedd, fod Cymru, ers i Lywodraeth y DU osod ei rhaglen galedi yn adolygiad o wariant 2010, wedi gorfod rheoli toriad o £1.2 miliwn - mae'n ddrwg gennyf, dywedaf hynny eto, toriad o £1.2 biliwn yn y cyllid. Er...
70
Gyda'r cyfle i ddiwygio llywodraeth leol, a fydd y Prif Weinidog yn cymryd camau ar frys i sicrhau y rhoddir strwythur rhanbarthol newydd ar waith, er mwyn caniatáu i gynlluniau datblygu lleol diffygiol, gyda defnydd diangen o safleoedd maes glas, gael eu newid er mwyn osgoi blerdwf trefol wedi'i arwain gan ddatblygwyr...
71
Gwnaf. Mae bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe yn parhau i arwain ar alinio a chydweithio rhanbarthol er mwyn cyflawni dyheadau a rennir ar gyfer swyddi a thwf.
72
Gallaf, wrth gwrs. Gwn fod Syr Terry Matthews a'r bwrdd wedi datblygu cynnig cychwynnol ar gyfer bargen ddinesig, sydd wedi'i chyflwyno i ni a Llywodraeth y DU. Mae'n ceisio swm o tua £500 miliwn dros 20 mlynedd, ac yn wir, mae'r cynnig yn amlinellu grym trawsnewidiol cysylltedd digidol i gyflymu twf yn y rhanbarth, a ...
73
Mae hynny'n iawn, ac mae'n wir i ddweud, heb i'r arian yna fod ar gael, na fyddai'r campws yna nawr.
74
Credaf fod hynny yn digwydd. Mae bwrdd y dinas-ranbarth yn gwybod yn iawn mai'r allwedd i ddenu buddsoddiad yw sicrhau bod sgiliau ar gael fel y gall y buddsoddiad hwnnw ddigwydd. Un o'r cwestiynau a ofynnir yn aml i mi gan fuddsoddwyr posibl pan fyddaf yn mynd dramor yw, 'A oes gennych y sgiliau sydd eu hangen arnom e...
75
Wel, byddai angen hynny beth bynnag. Mae dinas-ranbarth bae Abertawe yn croesi ffiniau. Rydym yn gwybod nad yw ffiniau gwleidyddol yn cyd-fynd â ffiniau economaidd. Dyna pam y mae'r fargen ddinesig yn y prifddinas-ranbarth yn cynnwys 10 awdurdod lleol, gan adlewyrchu, wrth gwrs, y rhanbarth economaidd, a chan adlewyrch...
76
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yn y cytundeb a gyrhaeddoch i ffurfio'r glymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol sydd gennym fel Llywodraeth yma yng Nghymru heddiw, cafodd rhan o faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol ynglŷn â lleihau maint dosbarthiadau ei chynnwys yn eich rhaglen lywodraethu. Cost hynn...
77
Sylwaf nad ateboch y cwestiwn, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig deall hyn: a fyddwch yn darparu arian ychwanegol at ymrwymiad eich maniffesto i gyflawni'r ymrwymiad newydd hwn rydych wedi'i gynnwys yn eich rhaglen lywodraethu? Mae'n gwestiwn hollol deg, oherwydd byddwn yn gobeithio, cyn i chi gytuno i hyn, eich bo...
78
Mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu harchwilio wrth i ni geisio symud y polisi yn ei flaen. Un o'r pethau rydym yn ymfalchïo ynddynt yw'r ffaith ein bod wedi adeiladu cymaint o ysgolion newydd ledled Cymru, ein bod wedi adnewyddu cynifer o ysgolion ledled Cymru ac y bydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn p...
79
Rwy'n derbyn yr ail bwynt a wnaeth y Prif Weinidog a chaiff gefnogaeth lawn fy mhlaid, yn sicr, wrth geisio cael gwared ar y cyfyngiad mawr hwn ar ddatblygu economaidd yn ne Cymru. Ond o ran prosiect yr M4, aeth fy mhlaid i mewn i'r etholiad diwethaf ar sail cefnogi'r llwybr glas yn hytrach na'r llwybr du. Ein barn ni ...
80
Rwy'n derbyn rhesymeg hynny. Rwyf fi ond eisiau dweud wrth y Prif Weinidog ein bod wedi dod i'r lle hwn i fod yn adeiladol yn yr wrthblaid ac rydym am chwarae'r math o rôl y mae Plaid Cymru'n honni yn awr ei bod yn ei chwarae mewn perthynas â datblygu polisi Llywodraeth, ac felly rwyf eisiau dweud, o ran y llwybr du ne...
81
Diolch, Lywydd. Wel, mae'n edrych fel pe baech yn mynd i allu taro bargen gydag UKIP, Brif Weinidog, ar ddyfodol y llwybr du. Diddorol iawn. [Chwerthin.] Neithiwr, cafwyd dadl deledu ar refferendwm yr UE, a chwalodd y system cofrestru pleidleiswyr yn union cyn yr amser cau, sef hanner nos. A wnewch chi ymuno â mi ac er...
82
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fe fyddwch yn cofio sut y collodd cyn-weithwyr ASW yma yng Nghaerdydd eu pensiynau pan aeth eu cwmni i'r wal ychydig flynyddoedd yn ôl. Bodolaeth un o gyfarwyddebau'r UE yn 1980 y daeth fy nghyd-Aelod Adam Price o hyd iddi pan oedd yn AS Plaid Cymru, a orfododd y Llywodraeth - Llywodraeth...
83
Diolch, Brif Weinidog. Nawr, mae llawer o'r ddadl hyd yn hyn wedi ymwneud mwy â chodi bwganod nag â darparu gwybodaeth gywir i bobl allu dewis yn wybodus ar ei sail. A wnewch chi ymuno â mi i gondemnio gwleidyddiaeth 'chwiban y ci' y dde eithafol sy'n ceisio cymell delweddaeth hiliol ac ecsbloetio ofnau pobl gyda datga...
84
Ar ôl cyflwyno dwy Ddeddf arloesol, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i sicrhau bod Cymru'n cael deddfwriaeth i ddelio'n effeithiol â'r newid yn yr hinsawdd, rŷm ni nawr yn ymrwymo i'w gweithredu nhw'n llawn.
85
Mae hynny'n iawn. Mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, fod y Deyrnas Unedig wedi cael ei llusgo i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei lanhau ac i sicrhau bod yr afonydd a hefyd y môr a'r awyr yn well na beth oedd yn wir 30 mlynedd yn ôl. Rwy'n cofio, fel rhywun oedd yn pysgota lot fel bachgen, fod yr Afon Taf yng Nghaerdydd...
86
Mae hwn yn rhywbeth inni ei ystyried, wrth gwrs. Mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n sicrhau hefyd fod yna weithredu'n cymryd lle ar draws y byd. Rŷm ni'n gallu chwarae ein rhan, wrth gwrs - rŷm ni wedi gwneud hynny o achos y ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei phasio. Ond hefyd, nid oes pwynt inni leihau beth ŷm ni'n ei wn...
87
Mae'n bwysig dros ben ein bod ni yng Nghymru yn chwarae ein rhan. Mae'n bwysig hefyd, wrth gwrs, fod pob gwlad yn y byd yn chwarae ei rhan. Nid yw'n ddigonol i ni leihau beth yr ŷm ni'n ei wneud, os yw pethau'n gwaethygu mewn gwlad arall, a dyna pam mae mor bwysig, wrth gwrs, i sicrhau ein bod ni'n gweld gweithredu'n c...
88
Wel, un ffordd o wella'r amgylchedd, wrth gwrs, ac allyriadau yn wir, yw buddsoddi mwy mewn ynni cynaliadwy, a gwn fod hwnnw'n fater sy'n codi yn ei ran ef o'r byd. Mae'n amlwg fod rhai ffurfiau ar ynni sy'n llygru llawer llai nag eraill, a dyna'r trywydd sy'n rhaid i ni a'r byd ei ddilyn yn y dyfodol. Un ffordd o fudd...
89
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn ogystal â'r 190,000 o swyddi yng Nghymru yn unig sy'n dibynnu'n uniongyrchol ar gyllid gan yr UE, mae fy etholwyr hefyd yn elwa ar yr hawliau pwysig a gafwyd yn sgil aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, boed hynny'n absenoldeb â thâl - [Torri ar draws.] Esgusodwch fi - amser o'r gwaith...
90
Bydd y Prif Weinidog yn gwybod am Ffordd Goedwig Cwmcarn, atyniad sy'n gaffaeliad i ardal Islwyn ac un sydd wedi elwa ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn goresgyn anawsterau diweddar ar Ffordd Goedwig Cwmcarn, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno y gallai cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol fod yn allweddol, ac a fyddai'n cytu...
91
Brif Weinidog, rhwng 2014 a 2020, bydd Cymru yn elwa ar oddeutu £1.8 biliwn o fuddsoddiad y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i gefnogi cymunedau megis Islwyn. O ystyried y rhybuddion diweddar y gallai'r cyllid hwn ddod i ben ar ôl 2020, hyd yn oed os yw'r DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, pa gamau a gymerwch i sicrhau...
92
Yn amlwg, rydym i gyd yn gwybod nad oes y fath beth ag arian Ewropeaidd; arian Prydeinig ydyw, sy'n dod yn ôl i ni ar ôl iddynt ddwyn ei hanner. Ond a gaf fi ddweud, efallai nad yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol fod pobl yn ystyried mai Islwyn yw'r etholaeth fwyaf Ewrosgeptig yng Nghymru? A allwch chi feio'r etholaeth? E...
93
Bydd y rhaglen cau llysoedd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Rŷm ni wedi anfon ymateb trwyadl at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac er bod y penderfyniad wedi cael ei wneud, mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni wedi gwasgu'n gryf arno er mwyn er mwyn sicrhau bod yna ddigon o lysoedd yn...
94
Wel, mae'r adeilad ei hunan, wrth gwrs, yn hen adeilad. I fi, mae'n adeilad pwysig; dyna'r adeilad lle y gwnes i erlyn am y tro diwethaf yn Llys y Goron, sawl blwyddyn yn ôl nawr. So, mae yna rai sydd yn y carchar - wel, dim rhagor, nid wyf yn credu, o'm hachos i. Nid wyf yn credu bod hynny'n lot fawr o help ynglŷn â c...
95
Un o egwyddorion sylfaenol cyfraith Cymru tan 1536, ac egwyddor sylfaenol o'r hyn y byddem yn awr yn ei ddisgrifio, mae'n debyg, fel cyfraith Cymru a Lloegr ers hynny, yw bod cyfiawnder yn dod at y bobl. Dyna'r rheswm pam y mae ynadon yr Uchel Lys yn teithio o gwmpas. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf awgrymir yn awr ...
96
Credaf fod hynny'n gwneud synnwyr perffaith. O ran y llysoedd troseddol, wrth gwrs, mae angen iddynt gael celloedd wrth law, felly maent mewn categori gwahanol i'r llysoedd sirol, sydd wedi bod mewn adeiladau gweinyddol ers blynyddoedd lawer ar draws Cymru. Ond rwy'n credu bod yr awgrym o rannu adeilad neu gyfleusterau...
97
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb, ac arhosaf i glywed rhai o'r pwyntiau, ond un o'r materion rwyf am dynnu sylw ato yw'r ffaith, ers y cyhoeddiad ym mis Ionawr am golli 1,000 o swyddi, gyda 750 ohonynt yn fy etholaeth i, yng ngwaith Port Talbot, ein bod wedi gweld y rhan fwyaf o'r swyddi hynny'n mynd go iawn, ac ar ...
98
Brif Weinidog, yng nghofnodion blaenorol y tasglu nodais fod Nick Bourne wedi cynnig creu seminar ar ddympio dur fel y gallai'r cwmnïau dur ddod at ei gilydd i drafod y posibiliadau hynny. Yn bersonol rwy'n teimlo fod hynny'n fwy perthnasol nag erioed o ystyried ein bod yn clywed llawer o anwireddau amlwg gan rai yn y ...
99
End of preview. Expand in Data Studio

Data Calibro Exl2

Detholiad o Cofnod y Cynulliad Cymraeg i'w ddefnyddio yng ngham calibro ExLlama 2 wrth drosi modelau i fformat exl2.

Downloads last month
6